Course Content
Uned 1.1 Cyfansoddion Biolegol
Mae pob organeb wedi’i ffurfio o foleciwlau biolegol. Mae’r rhain yn hanfodol i organebau byw weithredu. Mae'n hanfodol deall sut mae adeiledd y moleciwlau hyn yn gysylltiedig â'u swyddogaeth.
0/8
Uned 1.2 Adeiledd a Threfniadaeth Celloedd
Mae pob organeb wedi’i ffurfio o gelloedd. Mae'r ddamcaniaeth celloedd yn gysyniad uno mewn bioleg. Mae'r ddamcaniaeth yn nodi bod celloedd newydd yn cael eu ffurfio o gelloedd eraill sy'n bodoli'n barod, a bod y gell yn uned hanfodol o adeiledd, swyddogaeth a threfniadaeth pob organeb fyw. Datblygwyd y ddealltwriaeth o uwchadeiledd celloedd ar sail datblygiadau ym maes microsgopeg.
Uned 1.3 Cellbilenni a Chludiant
Mae cellbilenni'n hanfodol wrth reoli symudiad sylweddau i mewn ac allan o'r gell. Maent yn hanfodol hefyd wrth adnabod celloedd.
Uned 1.4 Ensymau
Mae ensymau'n hanfodol wrth reoli metabolaeth mewn organebau. Mae'r wybodaeth sydd gan wyddonwyr am eu hadeiledd a'u swyddogaeth wedi galluogi ensymau i gael eu defnyddio'n eang mewn diwydiant.
Uned 1.5 Asidau Niwcleig a’u Swyddogaethau
Mae asidau niwclëig yn gyffredin i bob organeb fyw ac yn hanfodol ar gyfer llawer o swyddogaethau gan gynnwys etifeddiad a metabolaeth.
Uned 1.6 Cellraniad
Mae'r testun hwn yn ymdrin â chellraniad. Yn ystod cylchred cell, mae gwybodaeth enynnol yn cael ei chopïo a’i throsglwyddo i epilgelloedd.
Uned 2.1 Bioamrywiaeth ac Esblygiad
Mae'r testun hwn yn ymdrin â bioamrywiaeth a dosbarthiad. Mae’r amrywiaeth o organebau byw sy'n bodoli heddiw wedi esblygu o ganlyniad i ddethol naturiol. Mae technegau modern wedi golygu y bu'n bosibl dosbarthu'n fwy manwl gywir er mwyn cadarnhau perthnasoedd esblygiadol.
Uned 2.2 Cyfnewid Nwyon
Mae'r testun hwn yn cynnig trosolwg o addasiadau amrywiaeth o organebau ar gyfer cyfnewid nwyon. Wrth i organebau gynyddu mewn maint a chymhlethdod gyda chyfradd fetabolaidd gynyddol, mae mwy o angen am arwynebau cyfnewid nwyon arbenigol a mecanweithiau awyru. Thema sy'n rhedeg drwy'r testun hwn yw pwysigrwydd y gymhareb arwynebedd arwyneb i gyfaint mewn organebau.
Uned 2.3 Cludiant
Mae'r testun hwn yn edrych yn gyffredinol ar addasiadau amrywiaeth o organebau ar gyfer cludiant. Mae mwy o angen am fecanweithiau cludo arbenigol wrth i organebau gynyddu o ran maint a chymhlethdod.
Uned 2.4 Maethiad
Mae'r testun hwn yn rhoi trosolwg o'r addasiadau ar gyfer maeth mewn amrywiaeth o organebau. Mae mwy o angen am systemau treulio arbenigol wrth i organebau gynyddu o ran maint a chymhlethdod.
Lefel A Bioleg CBAC Uned 1&2 (AS)

Yn y wers hon, byddwn yn dysgu am ‘Pwysigrwydd Dwr ac Elfennau eraill’. Awgrymwn eich bod yn cwblhau’r gweithgareddau yn y drefn ganlynol:

Gweithgaredd 1

Gwyliwch y fideo ‘Pwysigrwydd Dwr ac Elfennau eraill

Gweithgaredd 2

Darllenwch drwy’r PDF ‘Nodiadau Dwr‘ (gydag adnoddau eraill yn ‘Exercise Files’)

Gweithgaredd 3

Cwblhewch gwis Pwysigrwydd Dwr ac Elfennau Eraill (bydd angen i chi adael y wers hon i wneud hyn)

Gweithgaredd 4

Gwellwch eich dealltwriaeth a gwybodaeth gan ddefnyddio’r cerdiau fflach isod.

Gallwch ddilyn y ddolen i wefan Quizlet am fwy o weithgareddau rhyngweithiol

https://quizlet.com/gb/1127980128/pwysigrwydd-dwr-ac-elfennau-eraill-flash-cards/?i=6vwz8z&x=1jqt

Gweithgaredd 5

Cwblhewch y daflen adolygu “blurt”

Gweithgaredd 6

Edrychwch dros y Trefnydd Gwybodaeth WJEC ‘Trefnydd Gwybodaeth Dwr

Gweithgaredd 7

Cwblhewch y cwestiynau papurau arholiad ‘Cwestiynau Dwr’. Yn dilyn hyn, gallwch gymharu eich atebion â’r atebion enghreifftiol ‘ATEBION Cwestiynau Dwr’

Exercise Files
taflen blurt Dwr ac Ionau.pdf
Size: 1.35 MB
Nodiadau Dwr.pdf
Size: 197.74 KB
Cwestiynau Dwr.pdf
Size: 195.60 KB
ATEBION Cwestiynau Dwr.pdf
Size: 285.10 KB
Trefnydd Gwybodaeth Dwr.pdf
Size: 597.82 KB
0% Complete