Lefel A Bioleg CBAC Uned 1&2 (AS)

Wishlist Share
Share Course
Page Link
Share On Social Media

About Course

Mae’r cwrs adolygu Bioleg Lefel A hwn wedi’i strwythuro’n ofalus i gefnogi llwyddiant mewn arholiadau, gyda un is-uned unigol yn cael ei gwmpasu’n fanwl bob wythnos. Mae’r cwrs yn dechrau drwy adolygu testunau Uned 1 a astudiwyd y tymor diwethaf cyn symud ymlaen at gynnwys Uned 2. Bydd yr holl ddeunydd gofynnol ar gyfer y ddwy uned yn cael ei gwmpasu cyn yr arholiadau, gyda’r wythnosau olaf yn canolbwyntio ar ymarfer papurau arholiad llawn a thechnegau arholi er mwyn sicrhau bod myfyrwyr yn hyderus ac wedi’u paratoi’n ddrwyadl. Gellir ail-ymweld â phob gwers ac uned mor aml ag y dymunwch, gan roi hyblygrwydd llwyr i chi yn eich adolygu.

Gan gwmpasu’r holl fanyleb ar gyfer Uned 1 a 2, mae’r cwrs yn175 cyfuno addysgu o ansawdd uchel gydag amrywiaeth eang o adnoddau rhyngweithiol, gan gynnwys:

  • Nifer o gwersi rhyngweithiol bob wythnos
  • Fideos cynhwysfawr yn esbonio pob testun
  • Cwisiau helaeth, gyda chwestiynau’n cwmpasu pob pwynt o’r fanyleb
  • Cwestiynau cyn papurau wedi’u torri lawr i bob testun, ynghyd ag atebion enghreifftiol ar gyfer hunanasesu – yn lle gorfod deall cynlluniau marcio cymhleth
  • Cardiau fflach
  • Taflenni Adolygu
  • Crynodeb PDF o’r bob testun o nodiadau adolygu Prifysgol Bangor
  • Trefnydd Gwybodaeth CBAC
  • ‘Walkthroughs’ cyn papurau llawn ar ddiwedd y cwrs
  • Mae ein ‘Q&A’ yn rhoi mynediad uniongyrchol at diwtoriaid arbenigol, gan eich galluogi i ofyn cwestiynau a chael cymorth clir a phersonol
  • Mwy o weithgareddau i ddilyn

P’un a ydych chi’n ddisgybl Blwyddyn 12 yn dechrau eich Safon Uwch neu’n ddisgybl Blwyddyn 13 yn paratoi ar gyfer ailsefyll, mae’r cwrs hwn yn darparu popeth sydd ei angen arnoch ar gyfer llwyddiant yn Uned 1&2.

___________________________________________________________________

This A Level Biology revision course is carefully structured to support exam success, with one sub-unit covered in depth each week. The course begins by revisiting Unit 1 topics studied last term before progressing through Unit 2 content. All required material for both units will be covered ahead of the exams, with the final weeks focused on full past paper practice and exam technique to ensure students are confident, knowledgeable and well prepared. Each lesson and unit can be revisited an unlimited number of times, giving you complete flexibility in your revision.

Covering the entire Unit 1 and 2 specifications, the course combines high-quality teaching with a wide range of engaging resources, including:

  • Several weekly interactive lessons
  • Comprehensive video explanation of the topic
  • Extensive quizzes, with questions covering all points of the specification
  • Past paper questions broken down into sub topics, coupled with model answers for self assessment- so you don’t have to try and figure out complicated WJEC mark schemes!
  • Flashcards
  • Revision sheets
  • PDF summary of each sub topic
  • WJEC Knowledge Organiser
  • Full past paper walkthroughs
  • Our Q&A feature provides direct access to expert tutors, allowing you to ask questions and receive clear, personalised support
  • More activities to follow.

Whether you’re a Year 12 student starting your A Levels or a Year 13 student preparing for a resit, this course provides everything you need for success in Unit 1&2.

Show More

What Will You Learn?

  • Byddwch yn ennill dealltwriaeth drylwyr o bob pwnc yn y manyleb, wedi’i gryfhau gyda chwizzes, cwestiynau o bapurau blaenorol, a fideos manwl. Mae adnoddau ychwanegol fel cardiau cof a threfnwyr gwybodaeth yn helpu i wella’r gallu i gofio a’r dechneg arholiad
  • You’ll gain a thorough understanding of every topic in the specification, reinforced with quizzes, past paper questions, and detailed videos. Additional resources like flashcards and knowledge organisers help improve recall and exam technique.

Course Content

Uned 1.1 Cyfansoddion Biolegol
Mae pob organeb wedi’i ffurfio o foleciwlau biolegol. Mae’r rhain yn hanfodol i organebau byw weithredu. Mae'n hanfodol deall sut mae adeiledd y moleciwlau hyn yn gysylltiedig â'u swyddogaeth.

Uned 1.2 Adeiledd a Threfniadaeth Celloedd
Mae pob organeb wedi’i ffurfio o gelloedd. Mae'r ddamcaniaeth celloedd yn gysyniad uno mewn bioleg. Mae'r ddamcaniaeth yn nodi bod celloedd newydd yn cael eu ffurfio o gelloedd eraill sy'n bodoli'n barod, a bod y gell yn uned hanfodol o adeiledd, swyddogaeth a threfniadaeth pob organeb fyw. Datblygwyd y ddealltwriaeth o uwchadeiledd celloedd ar sail datblygiadau ym maes microsgopeg.

Uned 1.3 Cellbilenni a Chludiant
Mae cellbilenni'n hanfodol wrth reoli symudiad sylweddau i mewn ac allan o'r gell. Maent yn hanfodol hefyd wrth adnabod celloedd.

Uned 1.4 Ensymau
Mae ensymau'n hanfodol wrth reoli metabolaeth mewn organebau. Mae'r wybodaeth sydd gan wyddonwyr am eu hadeiledd a'u swyddogaeth wedi galluogi ensymau i gael eu defnyddio'n eang mewn diwydiant.

Uned 1.5 Asidau Niwcleig a’u Swyddogaethau
Mae asidau niwclëig yn gyffredin i bob organeb fyw ac yn hanfodol ar gyfer llawer o swyddogaethau gan gynnwys etifeddiad a metabolaeth.

Uned 1.6 Cellraniad
Mae'r testun hwn yn ymdrin â chellraniad. Yn ystod cylchred cell, mae gwybodaeth enynnol yn cael ei chopïo a’i throsglwyddo i epilgelloedd.

Uned 2.1 Bioamrywiaeth ac Esblygiad
Mae'r testun hwn yn ymdrin â bioamrywiaeth a dosbarthiad. Mae’r amrywiaeth o organebau byw sy'n bodoli heddiw wedi esblygu o ganlyniad i ddethol naturiol. Mae technegau modern wedi golygu y bu'n bosibl dosbarthu'n fwy manwl gywir er mwyn cadarnhau perthnasoedd esblygiadol.

Uned 2.2 Cyfnewid Nwyon
Mae'r testun hwn yn cynnig trosolwg o addasiadau amrywiaeth o organebau ar gyfer cyfnewid nwyon. Wrth i organebau gynyddu mewn maint a chymhlethdod gyda chyfradd fetabolaidd gynyddol, mae mwy o angen am arwynebau cyfnewid nwyon arbenigol a mecanweithiau awyru. Thema sy'n rhedeg drwy'r testun hwn yw pwysigrwydd y gymhareb arwynebedd arwyneb i gyfaint mewn organebau.

Uned 2.3 Cludiant
Mae'r testun hwn yn edrych yn gyffredinol ar addasiadau amrywiaeth o organebau ar gyfer cludiant. Mae mwy o angen am fecanweithiau cludo arbenigol wrth i organebau gynyddu o ran maint a chymhlethdod.

Uned 2.4 Maethiad
Mae'r testun hwn yn rhoi trosolwg o'r addasiadau ar gyfer maeth mewn amrywiaeth o organebau. Mae mwy o angen am systemau treulio arbenigol wrth i organebau gynyddu o ran maint a chymhlethdod.

Student Ratings & Reviews

No Review Yet
No Review Yet

Want to receive push notifications for all major on-site activities?